Anweledig - Byw paroles de chanson

paroles de chanson Byw - Anweledig



Pan fyddwn i ar ben fy hun
Yn fy mhen y ma' 'na lun
Ac yn y llun mi wela i chdi,
Mi rwyt yn gwmni drwy y dydd.
Ac yn gefndir ma' 'na fryn
Ac o mor lân yw dwr y llyn,
Hiraethu rwyf am lymaid bach
A chael dymuno bywyd iach.
A pan dwi'n cysgu'n braf mae'r llun yn dod yn fyw
Ac ochor draw i'r brynia' ma' 'na bobol erill byw,
Ma' nhw'n siarad rhyw iaith brin
Ond dwi'm yn dalld yr hyn ma' nhw'n ddeud
Ond yn edmygu be' ma' nhw'n 'neud.
Byw a parchu'n gilydd,
Byw a parchu'r byd,
Byw a dysgu'n gilydd,
Byw a g'neud ein gora' glas
Heb redag ras.
Wrth ddeffro'n bora'n glun wrth glun
Mi feddyliais wrth fy hun:
Fod mwy yn sôn am werth y bunt
Na rhai sy'n sôn am werth y byd.
A pan dwi'n cysgu'n braf mae'r llun yn dod yn fyw
Ac ochor draw i'r brynia' ma' 'na bobol erill byw,
Ma' nhw'n siarad rhyw iaith brin
Ond dwi'm yn dalld yr hyn ma' nhw'n ddeud
Ond yn edmygu be' ma' nhw'n 'neud.
Byw a parchu'n gilydd,
Byw a parchu'r byd,
Byw a dysgu'n gilydd,
Byw a g'neud ein gora' glas
Heb redag ras.



Writer(s): Gareth John Thomas


Anweledig - Deud Y Deud




Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.