Katherine Jenkins - Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia) Lyrics

Lyrics Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia) - Katherine Jenkins



Dros Gymru′n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri
Y winllan wen a roed i'n gofal ni
D′amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth
A boed i′r gwir a′r glân gael ynddi nyth
Er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo′i hun
O! crea hi yn Gymru ar dy lun
O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw
A'r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef
A′n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen
O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw
A′r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef;
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen



Writer(s): Jean Sibelius, Lewis Valentine


Katherine Jenkins - Guiding Light
Album Guiding Light
date of release
30-11-2018




Attention! Feel free to leave feedback.