Eden - Paid  Bod Ofn paroles de chanson

paroles de chanson Paid  Bod Ofn - Eden



Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Dwed beth sy'n fy feddwl,
Paid â bod ofn
Os wyt ti'n meddwl 'run fath â fi.
Pam wyt ti yn edrych arna' i y ffordd yna -
Fedra' i ddim maddau i ti,
Be' sy'n mynd ymlaen tu ôl i'th lygaid di?
Wyt ti'n mynd i rannu â mi?
O, be am ddweud beth wedes ti wrtha'i neithiwr?
Geirie yn y gwres drwy yr orie hir?
Neu 'di golau'r dydd yn gorfod cuddio'r gwir?
Cuddio'r gwir?
Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Dwed beth sy'n fy feddwl,
Paid â bod ofn
Os w't ti'n meddwl 'run fath â fi.
Dywed be' wyt ti am i mi wneud gyda 'mywyd:
Aros yma amdanat ti neu mynd fy ffordd dy hun
A chwilio am r'wbeth gwell -
'Does na rhywbeth gwell na hyn?
O, be am wneud be wnest ti i minnau neithiwr?
Be am ddweud dy wirionedde i gyd?
Be am ddweud dy eirie wrtha' i o hyd?
O hyd?
Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Dweud beth sy'n fy feddwl,
Paid â bod ofn
Os w't ti'n meddwl 'run fath â fi.
Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Agor dy galon,
Paid â bod ofn,
Symud yn nes yma,
Paid â bod ofn,
Dwed beth sy'n fy feddwl,
Paid â bod ofn
Os w't ti'n meddwl 'run fath â fi.
Paid â bod ofn!




Eden - Paid  Bod Ofn
Album Paid  Bod Ofn
date de sortie
12-07-1997




Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.