Katherine Jenkins, The Arcadians & James Morgan - Cym Rhondda paroles de chanson

paroles de chanson Cym Rhondda - Katherine Jenkins, The Arcadians & James Morgan



Arglwydd, arwain trwy′r anialwch,
Fi, bererin gwael ei wedd,
Nad oes ynof nerth na bywyd
Fel yn gorwedd yn y bedd:
Hollalluog, Hollalluog,
Ydyw'r Un a′m cwyd i'r lan.
Ydyw'r Un a′m cwyd i′r lan
Agor y ffynhonnau melus
'N tarddu i maes o′r Graig y sydd;
Colofn dân rho'r nos i′m harwain,
A rho golofn niwl y dydd;
Rho i mi fanna, Rho i mi fanna,
Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Fel na bwyf yn llwfwrhau.
Pan yn troedio glan Iorddonen,
Par i'm hofnau suddo i gyd;
Dwg fi drwy y tonnau geirwon
Draw i Ganaan -- gartref clyd:
Mawl diderfyn. Mawl diderfyn
Fydd i′th enw byth am hyn.
Fydd i'th enw byth am hyn.




Katherine Jenkins, The Arcadians & James Morgan - One Fine Day
Album One Fine Day
date de sortie
30-09-2011



Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.