Gildas - Clywch Lu'r Nef текст песни

Текст песни Clywch Lu'r Nef - Gildas



Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
Henffych eni Ceidwad dyn:
Heddwch sydd rhwng nef a llawr,
Duw a dyn sy'n un yn awr.
Dewch, bob cenedl is y rhod,
Unwch â'r angylaidd glod,
Unwch oll yn llawen drem,
Ganwyd Crist ym Methlehem:
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
Henffych eni Ceidwad dyn!
Crist, Tad tragwyddoldeb yw,
A ddisgleirdeb wyneb Duw:
Cadarn Iôr a ddaeth ei hun,
Gwnaeth ei babell gyda dyn:
Wele Dduwdod yn y cnawd,
Dwyfol Fab i ddyn yn Frawd;
Duw yn ddyn, fy enaid, gwêl
Iesu, ein Emanwel!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
Henffych eni Ceidwad dyn!
Henffych, T'wysog heddwch yw;
Henffych, Haul Cyfiawnder gwiw:
Bywyd ddwg, a golau ddydd,
Iechyd yn ei esgyll sydd.
Rhoes i lawr ogoniant nef;
Fel na threngom ganwyd ef;
Ganwyd ef, O ryfedd drefn,
Fel y genid ni drachefn!
Clywch lu'r nef yn seinio'n un,
Henffych eni Ceidwad dyn!




Gildas - Paid â Deud
Альбом Paid â Deud
дата релиза
25-05-2015



Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.