Plethyn - Mi Gysgi Di 'Maban текст песни

Текст песни Mi Gysgi Di 'Maban - Plethyn



Mae'r ha' wedi sleifio'n ddi-sylw drwy'r cefn
A chynffon a gaseg sy'n winau drachefn.
Mae'r Pren Gwyn yn wynnach nag y buodd erioed
A heno cyn hyned yw gweddill y coed.
Mi gysgi di maban, mi gysgi di'n braf,
Dy wyneb mor dawel a diwrnod o haf,
Dy fysedd yn llacio wrth ollwng fy llaw,
Mi gysgi di maban, a'r bore a ddaw.
Mae'r pwll mawr yn dduach na dw+r corsydd mawn
Bu hwnnw yn gwahodd, do lawer prynhawn.
Wna'r barrug ddim codi wrth 'rhen felin blwm
A'r dagrau o'r derw sy'n dysgyn yn drwm.
Dwy gawod dan gysgod yn fy ngyrru o ngho'
Yng nghysgod yr aelwyd y mae ei gysgod o,
Ni welaf ond wal, ond a+ llygaid ynghau
Nid un sydd yn magu, ond yma mae dau.
Mi gysgi di maban, mi gysgi di'n braf,
Dy wyneb mor dawel a diwrnod o haf,
Dy fysedd yn llacio wrth ollwng fy llaw,
Mi gysgi di maban, a'r bore a ddaw.



Авторы: Myrddin Ap Dafydd, Linda Healy, Roy Griffiths, John Gittins


Plethyn - Gorau Gwerin / The Best Of Welsh Folk Music




Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.