Super Furry Animals - Dacw Hi текст песни

Текст песни Dacw Hi - Super Furry Animals



Dacw hi, a'i gwyneb mewn poen
Mae hi newydd gael ei phigo gan bry ar ei chroen
Mae'n gafael mewn papur cyfagos a'i daro ar y wal
Mae'n gadael gwenynen ar ôl sydd yn sicr wedi ei ddal
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch i'r drefn
Mae'n fore Iau ac mae'n mynd i'r gwaith
Wrth gau ei drws mae hi'n tynnu at saith
Wrth gau ei chot rhag yr oerni mae hi'n colli pishyn punt
Mae'n ei bigo o fyny yn syth cyn troi nôl mewn i'r gwynt
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch i'r drefn
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Sylwi pob dim)
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Neith hi chwerthin ar ddim
(Chwerthin ar ddim)
Mae hi'n ddoniol
(Mae hi'n ddoniol)
Mae'n sylwi pob dim
(Sylwi pob dim)
Ac mae'n medru gweld
Drwy gefn ei phen
Dim diolch i'r drefn
Unwaith drachefn
Amen



Авторы: Dewi Roberts, Rhodri Puw, Gruffudd Rhys, Dafydd Ieuan


Super Furry Animals - Mwng
Альбом Mwng
дата релиза
20-06-2000




Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.