Huw Chiswell - Gadael Abertawe Lyrics

Lyrics Gadael Abertawe - Huw Chiswell



Gadael Abertawe
Gyrru fel ffŵl
Rhywbeth wedi digwydd nawr
Methu cadw cŵl
Mor ddistaw yn y dre
Gweiddi yn fy sedd
Dylwn wbod gwell na mynd i ganol pethe dwl
Syth drw sgwar Dyfatty
Cymryd hewl y Cwm
Sbardun ar y llawr yn awr
Dechre plygu'n grwm
San Pedr Pontardawe yn oren yn y niwl
A'r lôn yn llifo tano'i
Y car yn canu Duw
Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul
A wi'n canu'r hen emyne bob cyfle rownd y ril
Dim yn ddyn crefyddol
Angen rhywun ar fy ngwir
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi'n credu mod i'n mynd
Wi'n credu mod i'n mynd
Munud ar ôl Ystrad, cyrraedd Craig y Nos
Llyged ar y troeon bum yn trafod gydol oes
Rhwbeth yn y gwrych, rhywun estron yn y drych
A rhwng y ddau ma'r olwyn 'tae yn tynnu am y ffos
Ces i nghodi yn y capel ar aer yr ysgol Sul
A wi'n canu'r hen emyne bob cyfle rownd y ril
Falle fydd e'n ddigon pan ddaw hi ar y du
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi'n credu mod i'n mynd
Wi wedu colli 'nghrefydd ond dal i ddisgwyl Duw
Ac mae gen i bwt o hunan barch i fywyd fynd ar sgiw
Nawr, a nawr wi'n gadel m'angen rhywun wrth y llyw
Nawr, Hosanna! Iesu rho dy law ar fy mhen
Wi'n meddwl mod i'n mynd
Wi'n meddwl mod i'n mynd
Wi'n meddwl mod i'n mynd



Writer(s): Huw Chiswell


Huw Chiswell - Ar y Lôn
Album Ar y Lôn
date of release
29-06-2012




Attention! Feel free to leave feedback.