Bryn Terfel - Hafan Gobaith paroles de chanson

paroles de chanson Hafan Gobaith - Bryn Terfel



Pan fyddo'r ystorom
Yn bygwth gwae uwch dy ben,
A therfysg diwedd dydd
Sydd yn rhwygo erwau'r nen,
Pan fyddo'r cysgodion
Yn taenu ias dros y tir,
A mantell ofnau'r nos
Sydd yn gaddug blin o gur.
Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i'th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.
Pan fyddo dy lwybr
Mor faith a thithau'n llesgáu
A chopa'r bryn ymhell,
Gorwel nad yw'n agosáu.
Pan fyddo dy ysbryd
Ar fin diffygio'n llwyr,
A baich unigedd byd
Sydd yn drech ym min yr hwyr.
Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i'th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.
I'r sawl sy'n myned drwy ei ddôr,
Cynhaliaeth gref a ddaw.
Ffydd, gobaith a chariad Iôr
Yw'r heulwen wedi'r glaw.
Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i'th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr.
Yma fe gei ysbaid,
Noddfa i'th enaid,
Cei yma orffwys
Yn hafan gobaith hyd y wawr,
Yn hafan gobaith hyd y wawr.



Writer(s): Ann Eleri Richards, Delyth Haf Rees


Bryn Terfel - Bryn Terfel - Hafan Gobaith (Another Day)
Album Bryn Terfel - Hafan Gobaith (Another Day)
date de sortie
01-09-2001




Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.