Cerys Matthews - Myfanwy paroles de chanson

paroles de chanson Myfanwy - Cerys Matthews



Paham mae dicter, O Myfanwy,
Yn llenwi′th lygaid duon di?
A'th ruddiau tirion, O Myfanwy,
Heb wrido wrth fy ngweled i?
Pa le mae′r wên oedd ar dy wefus
Fu'n cynnau 'nghariad ffyddlon ffôl?
Pa le mae sain dy eiriau melys,
Fu′n denu′n nghalon ar dy ol?
Pa beth a wneuthum, O Myfanwy
I haeddu gwg dy ddwyrudd hardd?
Ai chwarae oeddit, O Myfanwy
A thanau euraidd serch dy fardd?
Wyt eiddo im drwy gywir amod
Ai gormod cadw'th air i mi?
Ni cheisiaf fyth mo′th law, Myfanwy,
Heb gael dy galon gyda hi.
Myfanwy boed yr holl o'th fywyd
Dan heulwen ddisglair canol dydd.
A boed i rosyn gwridog iechyd
I ddawnsio ganmlwydd ar dy rudd.
Anghofia′r oll o'th addewidion
A wnest i rywun, ′ngeneth ddel,
A dyro'th law, Myfanwy dirion
I ddim ond dweud y gair "Ffarwél".



Writer(s): Richard Davies, Joseph Parry, Derek Hughes


Cerys Matthews - Tir
Album Tir
date de sortie
21-06-2010




Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.