Gwyneth Glyn - Adra paroles de chanson

paroles de chanson Adra - Gwyneth Glyn



"There is a town in North Ontario"
Meddai Neil Young yn ei gân
"Sweet home Alabama",
Meddai Skynyrd 'rownd y tân
"Rwy'n mynd 'nôl i Flaenau Ffestiniog, ie..."
Meddai'r hen Debot Piws
"Take me home, country road",
Meddai Denver - ond be' di'r iws?
'Does unman yn debyg i Adra',
Medda' nhw wrtha fi
Does unman yn debyg i Adra, na.
Ond ma' Adra'n debyg iawn i chdi
D'wn i ddim i lle dw i'n mynd,
D'wn i ddim lle dw i 'di bod
S'gyn i'm syniad lle dw i rwan hyn
A Duw a wyr lle dw i fod
Dwi i 'di cysgu dan sêr yn y Sahara
Ac aros ar yn nhraed drw'r nos ym Mhrague
Dw i 'di dawnsio ar fynydd hefo ffrindia' newydd
A deffro ar awyren wag
'Does unman yn debyg i Adra',
Medda' nhw wrtha fi
Does unman yn debyg i Adra, na.
Ond ma' Adra'n debyg iawn i chdi
Fy nghynefin yw fy nefoedd,
A bro fy mebyd yw fy myd
'Nabod fa'ma cystal a fi fy hun,
Felly pam dw i ar goll o hyd?
S'gyn i'm map a s'gyn i'm arwydd,
A s'gyn i'm 'rough guide' ar y daith
Dw i'n cau fy llygaid ac agor fy enaid,
A dilyn lôn dy lais
Dw i'n cau fy llygaid ac agor fy enaid,
A dilyn lôn dy lais
'Does unman yn debyg i Adra',
Medda' nhw wrtha fi
Does unman yn debyg i Adra, na.
Ond ma' Adra'n debyg iawn i chdi
Ma' Adra'n debyg iawn i chdi



Writer(s): Gwyneth Glyn


Gwyneth Glyn - Wyneb Dros Dro
Album Wyneb Dros Dro
date de sortie
01-08-2005

1 Adra



Attention! N'hésitez pas à laisser des commentaires.