Celt - Dros Foroedd Gwyllt текст песни

Текст песни Dros Foroedd Gwyllt - Celt



Dros foroedd gwyllt ac anial dir
Mi esh i'w phlesio hi un nos
Fel yn y dydd
Doedd na'm byd yn ormod
Bachgen bach
Doedd neb yn dallt
'Run oedd yn eistedd wrth ei hun
Dros foroedd gwyllt ac anial dir
Yn erbyn pob un crefydd es
Ar ôl y gwir
I ddarganfod dan y boen
Yr eneth fach
Doedd neb yn dallt
Yn trio'i dallt ei hun
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bo' rhywbeth mwy na thristwch
Yn ein calonna ni
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bod angerdd dan y gwenwyn
Sy'n ein calonna ni
Dros foroedd gwyllt ac anial dir
Es fel pererin at y nyth
Ar ôl y gwir
I ddarganfod dan y boen
Yr eneth fach
Roedd neb yn dallt
Yn methu dallt ei hun
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bo' rhywbeth mwy na thristwch
Yn ein calonna ni
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bod angerdd dan y gwenwyn
Sy'n ein calonna ni
A rhoist ti'm cyfle i mi esbonio
A rhoist ti'm dewis, na
Os ydi o'n unrhyw gysur nawr
All petha ddim mynd yn waeth
Yn waeth na hyn
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bo' rhywbeth mwy na thristwch
Yn ein calonna ni
Hei! Be ti'n ddweud?
Ma rhaid bod angerdd dan y gwenwyn
Sy'n ein calonna ni
Ein calonna ni



Авторы: Barry Jones


Celt - @.Com
Альбом @.Com
дата релиза
16-10-1998



Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.