Celt - Dwi'n Amau Dim текст песни

Текст песни Dwi'n Amau Dim - Celt



Mae'r haul yn t'wynnu arna'i mwy na 'rioed y dyddiau hyn,
A'r wawr 'di mynd yn rhywbeth werth ei weld,
Mae geiriau'r proffwyd unig 'na yn aros yn fy mhen,
Creda di yn dy hun ac ei di yn eitha pell.
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
Mae rhagrith yr awdurdod 'ma yn dal i 'nghorddi mi,
Er nawr alla'i eto godi mhen,
Dwi'n cofio'r geiriau diwethaf a siaradwyd gan fy nhaid,
"'Machgen i y tro 'ma ti 'di glanio ar dy draed".
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
Oh oh oh oh ac eith hi'n well na hyn?
Oh oh oh oh oh oh oh dwi'n amau dim.
Oh oh oh oh oh oh dwi'n amau dim (Dwi'n amau dim).
Oh oh oh oh oh oh dwi'n amau dim (Dwi'n amau dim).
Oh oh oh oh oh oh dwi'n amau dim (Dwi'n amau dim).
Oh oh oh oh oh oh dwi'n amau dim.
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
A'r ffordd dwi'n teimlo nawr,
Dwi'n amau dim.
Geiriau wedi'u trawsgrifio gan Tom Cartwright



Авторы: Barry Jones


Celt - @.Com
Альбом @.Com
дата релиза
16-10-1998



Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.