Dafydd Iwan - Ai Am Fod Haul Yn Machlud? текст песни

Текст песни Ai Am Fod Haul Yn Machlud? - Dafydd Iwan



Ai am fod haul yn machlud
Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
Neu ai am fod nos yn bygwth
Rhoi terfyn ar antur y dydd?
Neu ai am fod côr y goedwig
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor unig fy myd?
Ai am fod golau'r lleuad
Yn oer ar ruddiau'r nos?
Neu ai am fod oerwynt gerwin
Yn cwyno uwch manwellt y rhos?
Neu ai am fod cri'r gylfinir
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor dywyll fy myd?
Ond os yw yr haul wedi machlud
Mae gobaith yng ngolau'r lloer,
A chysgod yn nwfn y cysgodion
I'm cadw rhag y gwyntoedd oer,
Ac os aeth cri'r gylfinir
Yn un â'r distawrwydd mawr,
Mi wn y daw rhywun i gadw
Yr oed cyn toriad y wawr.



Авторы: Dafydd Iwan, Ray Morgan


Dafydd Iwan - Myn Duw Mi a Wn y Daw - Single




Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.