The Joy Formidable - 9669 - Welsh Language текст песни

Текст песни 9669 - Welsh Language - The Joy Formidable




Ai ffarwel yw hyn y ffarwel hir
Dyma yr un, yr unig un sydd
Ti'n torri o'r glun, o'r ochr â gwendid
Dyna ni wastraff, dyna ni
Ti wnaeth yr alwad, mae'r alwad yn byrhau
Torraist y swyn yn galed fe syrthia'i
Y tro hyn
Dwi'n gadael bob dim
Ymadael â'r wawr
Y rhifau ben lawr
Y rhifau
Cama o'r ffordd, cama, ail-lunia
Yma daw'r gwyn, yma daw'r gwagle
Os ddylen rannu, rhaid rhannu'n felysach
Ond mae'r graith yn estyn, torri a chwyddo
Fedrai'm teithio, teithio i'r machlud
Ewn yn bell a chariwn ein gilydd
Y tro hyn
Dwi'n gadael bob dim
Ymadael â'r wawr
Y rhifau ben lawr
Y rhifau
9669, collais dy law
9669, gafael yn awr



Авторы: Rhiannon Bryan, Rhydian Davies



Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.