Caryl Parry Jones - Un Yn Ormod Lyrics

Lyrics Un Yn Ormod - Caryl Parry Jones



Nos Sadwrn - mae'n saith o'r gloch,
Mae'n rhaid 'ddi fod yna erbyn naw;
Mae hi'n diferu ar ôl cawod boeth,
Mae hi'n barod am unrhyw beth nawr;
Rhy hir yn dewis gwisg mae'n mynd am y ffroc fach ddu
A mae hi'n sibrwd rhyw hyder trist y bydd 'na rywun yno iddi hi.
Mae'r paent ar y gwinedd hir,
Mae'r di orenau(?)'n y llefydd iawn;
Gwallt nôl a lliwiau'r nos yn pwyso ar ei llygaid llawn
Côt o goch ar wefusau oer sy'n ysu am gusanau poeth
A mae'n rhoi un arall i sicrhau, yna mwy - ydy hynny'n ddoeth?
Mae'n rhoi un yn ormod - mae 'di neud e 'to,
Un yn ormod - mae'n neud hyn bob tro,
Un yn ormod - a does na ddim troi 'nôl,
Pam mae'n mynnu mynd â dewis un yn ormod?
Mae'n cerdded at y bar fel wnaeth hi ganwaith a mwy o'r blaen,
Mae'r gwin yn mynd lawr mewn un,
Yna mwy er mwyn cuddio'r straen
Mae hi yn ei ffroc fach ddu yn gwbod bod 'na benne'n troi,
(O, pwy yw hi?)
Un arall ac ar ôl hwn fydd ganddi gymaint mwy i'w roi;
Mae'n cael un yn ormod - mae 'di neud e 'to,
Un yn ormod - mae'n gneud hyn bob tro,
Un yn ormod - a does na ddim troi 'nôl,
Pam mae'n mynnu mynd â dewis un yn ormod?
Pryd ma hi'n mynd i ddysgu bod un i un yn ddigon?
Pryd ma hi'n mynd i gysgu efo fi sydd yn ei charu?
Nes mlaen ym mhen draw'r bar mae na lygaid yn edrych draw,
Drwy'r gwres mae o'n dod yn nes yn cynnig cusan ar ei llaw,
Ei geiriau'n ei ddenu'n nes trwy'r mŵg a'r Chardonnay,
Ac ma un gair yn ei yrru 'nôl - dim ond un nad oedd yn ei le.
O na, mae hi di deud un gair yn ormod - mae 'di neud e 'to,
Un yn ormod - mae'n gneud hyn bob tro,
Un yn ormod - a does na ddim troi 'nôl,
Pam mae'n mynnu mynd â dewis un yn ormod?
Un yn ormod - mae 'di neud e 'to,
Un yn ormod - mae'n gneud hyn bob tro,
Un yn ormod - a does na ddim troi 'nôl,
Pam mae'n mynnu mynd â dewis un yn ormod?



Writer(s): Caryl Parry Jones


Caryl Parry Jones - Eiliad
Album Eiliad
date of release
01-10-1996




Attention! Feel free to leave feedback.