Charlotte Church - Three Welsh Bird Songs (Tylluanod) Lyrics

Lyrics Three Welsh Bird Songs (Tylluanod) - Charlotte Church



Pan fyddair? r nos yn alau,
A llwch y ffordd yn wyn,
A? r bont yn wag sy? n croesi? r dwr
Difwstwr ym Mhen LlynO? er
Y tylluanod yn eu tro
Glywid o lwyncoed Cwm y Glo
Pan siglai? r hwyaid gwyltion
Wrth angor dan y lloer
A Llyn y Ffridd ar Ffridd y Llyn
Trostynt yn chwipio? n oer,
Lleisio? n ddidostur wnaent I ru
Y gwynt o Goed y Mynydd Du
Pan lithrai gloyw ddwr Glaslyn
I? r gwyll, fel cledd I? r wain,
Pan gochai pell ffenestri? r plas
Rhwng briglas lwyn? r brain
Pan gaeai syrthni safnau? r cwn
Nosai Ynys for yn eu swn
A phan dywlla? r cread
Wedi? I wallgofddydd maith
A dyfod gosteg diystwr
Pob gweithiwr a phob gwaith
Ni bydd eu Lladin ar fy llw
Na llon na lleddf "Tw-whit, Tw-hw"



Writer(s): Dilys Elwyn-edwards, Robert Williams Parry


Charlotte Church - Voice of an Angel




Attention! Feel free to leave feedback.