Dafydd Iwan - Ai Am Fod Haul Yn Machlud? Lyrics

Lyrics Ai Am Fod Haul Yn Machlud? - Dafydd Iwan



Ai am fod haul yn machlud
Mae deigryn yn llosgi fy ngrudd?
Neu ai am fod nos yn bygwth
Rhoi terfyn ar antur y dydd?
Neu ai am fod côr y goedwig
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor unig fy myd?
Ai am fod golau'r lleuad
Yn oer ar ruddiau'r nos?
Neu ai am fod oerwynt gerwin
Yn cwyno uwch manwellt y rhos?
Neu ai am fod cri'r gylfinir
Yn distewi a mynd yn fud?
Neu ai am i rywun fy ngadael
Rwyf innau mor dywyll fy myd?
Ond os yw yr haul wedi machlud
Mae gobaith yng ngolau'r lloer,
A chysgod yn nwfn y cysgodion
I'm cadw rhag y gwyntoedd oer,
Ac os aeth cri'r gylfinir
Yn un â'r distawrwydd mawr,
Mi wn y daw rhywun i gadw
Yr oed cyn toriad y wawr.



Writer(s): Dafydd Iwan, Ray Morgan


Dafydd Iwan - Y Caneuon Cynnar
Album Y Caneuon Cynnar
date of release
01-09-1998

1 Wrth Feddwl Am Fy Nghymru
2 Cân yr Ysgol
3 Ji, Geffyl Bach
4 Dos F'Anwylyd
5 Mae'r Darnau Yn Disgyn I'w Lle
6 Mae Prydferthwch (Ail I Eden)
7 Dewch I Lan Y Môr
8 Siarad  Ti A Mi
9 Mae Rhywun Yn y Carchar
10 Baled Yr Eneth Eithafol
11 Merch Y Mynydd
12 Mynd Yn Ôl
13 Dim Ond Un Gân Sydd Ar Ôl
14 Carlo
15 Bryniau Bro Afallon
16 Cân y Ddinas
17 Sam
18 Crwydro
19 Croeso Chwedeg-Nain
20 Mae'N Wlad I Mi
21 Clyw Fy Nghri
22 Mae 'Na Le Yn Tŷ Ni
23 Ai Am Fod Haul Yn Machlud?
24 Can Y Western Mail
25 Mae'R Llencyn Yn Y Jel
26 Pam Fod Eira Yn Wyn?
27 Y Steddfod Beiling
28 Myn Duw, Mi A Wn Y Daw
29 Mr Tomos, Os Gwelwch Yn Dda
30 Mae Hiraeth Yn Fy Nghalon
31 I'R Gad
32 A Gwn Fod Popeth Yn Iawn
33 Ac Fe Ganon Ni
34 Am Na Ches I Wadd I'r Briodas
35 Cân Serch - I Awyren Ryfel
36 Yr Hawl I Fyw Mewn Hedd
37 Cŵyngan Y Sais
38 Bod Yn Rhydd
39 Penillion I Gilmeri




Attention! Feel free to leave feedback.