Lyrics




Geiriau sy'n llusgo o 'ngwefusau i
Creu un frawddeg fer, cyfleu fy nheimlad i
Ond methu fu fy hanes i erioed
Geiriau: atgof mud fy nhafod i
Does dim modd mynegi unrhyw deimlad sydd
Pan dyw geiriau ddim yn dod yn rhwydd i mi
Teimla swyn fy 'nghalon i
Cofleidia yng ngwydd fy nistawrwydd i
Pwy sydd angen geiriau
Tra mae fflam, tra mae fflam
Yn llosgi'n ein calonnau?
Ti yw'f fflam
Geiriau sy'n drysor yn fy nghalon i
Doedd dim rhaid mynegi fy nheimladau i
Fe wyddais fod fy ngeiriau yn dy gyrraedd di
Teimla swyn fy 'nghalon i
Cofleidia yng ngwydd fy nistawrwydd i
Pwy sydd angen geiriau
Tra mae fflam, tra mae fflam
Yn llosgi'n ein calonnau?
Ti yw'f fflam
Mae'r geiriau'n drysor yn fy nghalon i
Doedd dim rhaid mynegi fy nheimladau i
Fe wyddais fod fy ngeiriau 'di dy gyrraedd di
Dy gyrraedd di



Writer(s): Mathew Thomas, Ioan Eurig Roberts, Ynyr Gruffudd Roberts, Huw Llywelyn Jones, Dewi Griffith Thomas


Epitaff - Follow Me
Album Follow Me
date of release
01-09-2000

1   Geiriau



Attention! Feel free to leave feedback.
Loading
Loading