Daniel Lloyd a Mr Pinc - Eldon Terrace текст песни

Текст песни Eldon Terrace - Daniel Lloyd a Mr Pinc



Tyd i fyw efo fi yn Eldon Terrace,
Gawn ni uffar o hwyl ma'n siŵr,
Anwybyddwch y t'wyllwch a'r tyllau yn y waliau
A cadwch yn bell o'r dŵr!
Awn ni fyny'r grisiau heibio lluniau o ddyddie 'di bod,
'Ma pawb yn eu gwlau yn awr ond mae'n amser i droi y rhod...
A ma'r waliau yn binc
A dwi'n wyllt efo isio mynd nôl!
A chdithau yn fa'na a finna fan hyn,
Gofynnwch i mi pwy sy'n ffôl.
Yn Eldon Terrace, 'da ni'n creu hanes,
Yn Eldon Terrace yn 'Nymbar Wan'.
Ma'r 'ashtre' arian ar ben y tanc pysgod
Yn haeddu ei lle fel y cwîn!
Ma'r 'heating' di torri am yr ail waith mewn wsnos
A ma Gibby yn andros o flîn;
Ma Al yn y gegin ei galon ar red i ni weld
Fod y bacwn yn llosgi, y larwm yn canu, ond o'dd Sion yn siwr o ragweld...
Fod y waliau yn binc
A dwi'n wyllt efo isio mynd nôl!
A chditha yn fa'na a finna fan hyn,
Gofynnwch i mi pwy sy'n ffôl.
Yn Eldon Terrace, 'da ni'n creu hanes,
Yn Eldon Terrace yn 'Nymbar Wan'.
Yn Eldon Terrace, 'da ni'n creu hanes,
Yn Eldon Terrace yn 'Nymbar Wan'.
Tyd i fyw efo fi yn Eldon Terrace,
Gawn ni uffar o wledd o fwyd -
Chicken an' cream a brechdana Maltesers
'Di gneud gan y chef twp o Glwyd;
Y 'George Foreman' yn c'nesu, y nwy yn llenwi y tŷ,
Mae'r zig zags yn tanio a ma'r waliau pinc 'di troi'n ddu.
Nid yw'r waliau yn binc,
A dwi'n wyllt efo isio mynd nôl!
A chditha yn fa'na a finna fan hyn,
Gofynnwch i mi pwy sy'n ffôl.
Yn Eldon Terrace, 'da ni'n creu hanes,
Yn Eldon Terrace yn 'Nymbar Wan'.



Авторы: Daniel Owain Lloyd


Daniel Lloyd a Mr Pinc - Deugain Sain
Альбом Deugain Sain
дата релиза
03-08-2009



Внимание! Не стесняйтесь оставлять отзывы.